Mae Cyfraith Gymunedol Gogledd Cymru yn elusen newydd, sy’n darparu cyngor cyfreithiol arbenigol am ddim ar faterion sy’n effeithio ar fywyd pob dydd pobl fel chi.
Rydym yn dîm cyfeillgar sy’n barod i sgwrsio – ac rydym yn rhannu ymrwymiad i wneud yn siŵr bod pawb yng Ngogledd Cymru yn gallu cael cyngor cyfreithiol arbenigol os oes ganddynt bryderon am faterion fel tai, problemau teuluol sy’n ymwneud â cham-drin domestig, ac sy’n methu cael y cymorth lles cywir. Mae gennym arbenigedd penodol yng nghyfraith Cymru ac rydym yn ymfalchïo yn ein gwreiddiau dwfn yng nghymunedau’r Gogledd.
Ein nod yw gwella bywydau yn y rhanbarth i wneud Gogledd Cymru’n rhywle lle gall pawb fyw’n dda a ffynnu. Gan ein bod yn elusen annibynnol mi allwn eich rhoi chi’n gyntaf bob amser. Rydym yn cydweithio’n glos ag awdurdodau lleol i ddod o hyd i atebion, ond mi ydym yn barod i’w herio os oes angen gwneud hynny ar ran ein cleientiaid. Rydym yn arbennig o falch o’n partneriaethau ag elusennau lleol, sefydliadau cymunedol a chwmnïau cyfreithiol.
Rydym yn gallu gweithio’n hyblyg, mewn ffyrdd sy’n addas i chi.
Yn ogystal â’n swyddfeydd yng Nghyffordd Llandudno (link to how to find us), mi all ein cynghorwyr gwrdd â chi mewn banciau bwyd, llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol ledled y rhanbarth. Yn ogystal â chyfarfodydd wyneb yn wyneb, rydym yn cynnig apwyntiadau dros y ffôn ac ar-lein. Mae croeso i blant bob amser yn ein hapwyntiadau (mae gennym gyflenwad da o deganau yn ein swyddfeydd); ac mae croeso i chi ddod â chydweithiwr, ffrind neu berthynas yn gwmni i chi, os hoffech chi hynny. Os oes gennych ofynion mynediad neu unrhyw beth arall, rhowch wybod i ni.
Mae ein holl gyngor am ddim i’r sawl sydd ei angen ac mae gennym staff sy’n rhugl yn Gymraeg a Saesneg.
Cael cyngor cyfreithiol arbenigol