Ein gwaith gyda thai

Rydyn ni’n gweithio gyda phobl ledled Gogledd Cymru y mae angen cyngor cyfreithiol arnynt am eu tai ond nad ydynt yn gallu talu am gyfreithiwr preifat na dod o hyd i un.

Os ydych chi’n ddigartref (neu mewn perygl o golli eich cartref), yn cael problemau gyda’ch landlord, yn poeni am damprwydd neu ddiffyg gwaith atgyweirio, neu’n byw mewn llety nad yw’n diwallu anghenion eich teulu, rydyn ni yma i helpu.

Stori Owen

Roedd amgylchiadau personol ac iechyd gwael Owen yn golygu ei fod yn ddigartref ar ddechrau’r gaeaf. Aeth at ei gyngor lleol i gael cymorth ond nid oedd neb yn gwrando arno. Ni allai Owen weld unrhyw ddewis arall heblaw cysgu mewn cwt gwag ar ddarn o dir segur. Roedd Owen yn byw yn y cwt drwy gydol misoedd oer y gaeaf heb wres, trydan na dŵr rhedeg na glanweithdra.

Cafodd ei atgyfeirio atom ni gan fanc bwyd lleol i gael cyngor. Gwnaethon ni dderbyn achos Owen ac roedden ni’n eirioli ar ei ran gyda’r cyngor lleol. Gwnaethon ni ddatgan achos Owen ac atgoffa’r cyngor o’i hawliau cyfreithiol fel person digartref gydag anghenion iechyd difrifol. Gorfodwyd y cyngor i gymryd achos Owen o ddifrif a chafodd gynnig llety brys.

Stori Katrina

Bu Katrina a’i phlant ifanc yn byw yn eu cartref rhent am saith mlynedd. Roedd problemau o ran diffyg atgyweirio yn yr eiddo am flynyddoedd lawer, gan gynnwys dŵr yn gollwng o’r toiled. Roedd Katrina bob amser yn gwneud yn siŵr ei bod hi’n rhoi gwybod i’w landlord am y problemau ond roedd ei landlord yn aml yn ei hanwybyddu. Yn y pen draw, dechreuodd dŵr carthion crai ollwng o’r toiled i lawr estyll yr ystafell ymolchi, i fyny’r wal, ac i ystafell wely ei phlentyn ieuengaf.

Roedd landlord Katrina wedi addo trwsio’r toiled a thrwsio’r difrod. Dywedodd y landlord wrth Katrina hefyd na fyddai’n rhaid iddi dalu rhent nes i’r problemau gael eu datrys. Nid oedd y landlord wedi datrys y broblem ac, ar ôl misoedd lawer, dywedwyd wrth Katrina y byddai’n ormod o drafferth ei drwsio a’i bod hi’n mynd i gael ei throi allan am beidio â thalu ei rhent.

Fe wnaethon ni gynghori Katrina ar sut i amddiffyn yr achos meddiannu a sut i wneud gwrth-hawliad am y diffyg atgyweirio gan y landlord. Fe wnaethon ni hefyd roi cyngor iddi ar sut mae gofyn i'r cyngor lleol am help. Defnyddiodd Katrina ein cyngor a thynnodd ei landlord yr hawliad llys yn ôl. Cafodd Katrina help gan ei chyngor lleol hefyd a daeth o hyd i gartref diogel newydd i’w theulu.

Cael cyngor arbenigol ar dai cyfreithiol

Os oes angen help arnoch gyda phroblem tai, mae gennym ragor o wybodaeth am sut rydyn ni’n gweithio a sut mae cysylltu â ni.

cyWelsh