Ein Hanes
Mae Cyfraith Gymunedol Gogledd Cymru yn ddiweddglo i waith llawer o bobl dros nifer o flynyddoedd. Mae pawb sydd wedi cyfrannu at ein stori yn cael eu huno gan eu hymroddiad i gymuned, cydraddoldeb a chyfiawnder, a’u hymrwymiad i ranbarth Gogledd Cymru.
Yn 2018, bu grŵp o ymgyrchwyr hawliau, cyfreithwyr sy’n ymarfer a gweithwyr cynghori o Ogledd Cymru a ledled y DU, gwrdd ar drip gwersylla yn Sir Ddinbych. Gan rannu eu profiadau o ymgyrchu dros gyfiawnder cymdeithasol, darparu cyngor cyfreithiol a chael gafael ar gyngor eu hunain, gwnaethon nhw gydnabod yr angen am fwy o gyngor cyfreithiol cymunedol sydd am ddim ac yn hawdd cael gafael arno, a hynny ar draws y rhanbarth.
Yn 2019, darparodd Rhwydwaith Canolfannau’r Gyfraith gyllid sbarduno i edrych ar ddatblygu’r ddarpariaeth yng Ngogledd Cymru. Ymunodd eraill â’r grŵp a oedd yn cyfarfod yn Sir Ddinbych, gan gynnwys rhai sy’n byw ac yn gweithio yn y gymuned rydyn ni’n ei gwasanaethu, ac sydd â dealltwriaeth ddofn o’r sector cynghori, polisi a deddfwriaeth yng Nghymru. Drwy gydol y pandemig, fe wnaethant ymchwilio i’r bwlch sy’n bodoli o ran y ddarpariaeth cyngor cyfreithiol am ddim ar draws y chwe ardal awdurdod lleol sy’n rhan o’n rhanbarth. Buon nhw gwrdd o bell drwy gydol y pandemig i drafod ffyrdd o fynd i’r afael â’r broblem.
Ffurfiodd y gwirfoddolwyr Grŵp Llywio Canolfan y Gyfraith Gogledd Cymru fel Sefydliad Corfforedig Elusennol cofrestredig ddechrau 2022. Dyfarnwyd cyllid iddyn nhw ar gyfer cyfnod datblygu o flwyddyn a chyflogi aelod o staff i wneud y gwaith.
Yn 2023, dyfarnwyd rhagor o arian ar gyfer recriwtio tîm cyfreithiol, a gyda chymorth hael Rhwydwaith Canolfannau’r Gyfraith a’n cefnogwyr eraill, fe wnaethom symud o Grŵp Llywio i wasanaeth, gan ddarparu cyngor cyfreithiol am ddim i’n cleientiaid cyntaf yn ddiweddarach y flwyddyn honno.
Fel sefydliad ifanc, edrychwn ymlaen at dyfu ein tîm a’n henw da, a gweithio tuag at fod yn aelod o Rwydwaith Canolfannau’r Gyfraith. Yn 2024, fe wnaethom gydnabod yr angen i’n henw adlewyrchu’n well y gwasanaeth rydyn ni’n ei ddarparu, ac ail-frandio i Gyfraith Gymunedol Gogledd Cymru.