P’un ai ydych chi’n gallu cynnig rhodd, eich amser neu eich arbenigedd, mae llawer o ffyrdd o gefnogi Cyfraith Gymunedol Gogledd Cymru.
Cymryd Rhan
Rydyn ni bob amser yn awyddus i glywed gan bobl a fyddai’n hoffi helpu i wireddu ein gweledigaeth.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwaith cymunedol, cyfathrebu, gwasanaeth cwsmeriaid, gweinyddu neu ymarfer cyfreithiol, mae rhagor o wybodaeth am am ymuno â ni ar gael yma.
Gwneud Cyfraniad
I wneud yn siŵr bod cyngor cyfreithiol ar gael i’r rhai sydd ei angen fwyaf, mae ein holl gyngor yn rhad ac am ddim. Ni fyddem yn gallu gwneud y gwaith hwn heb gefnogaeth hael ein cyllidwyr, ein rhoddwyr a’n cefnogwyr.