Sut rydyn ni’n gweithio

Mae Cyfraith Gymunedol Gogledd Cymru yn dîm bach o gyfreithwyr arbenigol, gweithwyr achos a staff eraill sy’n helpu pobl i gael mynediad at gyfiawnder a chynnal eu hawliau cyfreithiol.

Rydyn ni’n cynnig cymorth am ddim. Ni fyddwn byth yn codi tâl arnoch chi am gyngor cyfreithiol. Os bydd yn costio i ni eich helpu chi (ffi’r llys er enghraifft), byddwn ni’n rhoi gwybod i chi ac yn egluro pethau’n glir. Os bydd angen i chi fynd i apwyntiad ac nad ydych chi’n gallu fforddio costau teithio, efallai y byddwn ni’n gallu eich helpu chi.

Rydyn ni’n gwybod bod y problemau sy’n effeithio ar y pethau pwysicaf mewn bywyd, fel eich cartref a’ch teulu, yn gallu peri pryder, yn gymhleth, ac yn gallu achosi problemau eraill neu eu gwneud nhw’n waeth. Gall deall eich hawliau a gofyn am help fod yn frawychus.

Yng Nghyfraith Gymunedol y Gogledd, rydyn ni am ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i chi gael yr help sydd ei angen arnoch chi.

Mae ein tîm yn gyfeillgar ac yn groesawgar. Byddwn ni’n rhoi’r amser sydd ei angen arnoch chi i egluro eich sefyllfa a dweud sut rydych chi eisiau i ni eich helpu. Byddwn ni’n gwneud ein gorau i weithio ar gyflymder sy’n addas i chi a byddwn ni’n egluro eich opsiynau a beth allai’r canlyniadau fod er mwyn i chi allu gwneud penderfyniad gwybodus sydd orau i chi. Byddwn ni’n glir ynghylch yr hyn y gallwch chi ei ddisgwyl nesaf, pryd, a beth fydd yn digwydd. Byddwn ni’n onest ynghylch pryd a pham na allwn ni eich helpu, a byddwn ni’n gwneud ein gorau i’ch helpu chi i ddod o hyd i rywun sy’n gallu eich helpu chi.

Beth fydd yn digwydd pan fyddwch chi’n cysylltu â ni

Sut gallaf gael cymorth?

Rhagor o wybodaeth am ble rydyn ni’n gweithio a sut gallwch chi gysylltu â ni.

cyWelsh