Ymunwch â ni

Diolch i chi am eich diddordeb mewn ymuno â ni a gweithio gyda Cyfraith Gymunedol Gogledd Cymru.

Fel aelod o staff, gwirfoddolwr neu ymddiriedolwr sy’n gweithio gyda ni gallwch ddisgwyl hyblygrwydd, cydnabyddiaeth a diwylliant hynod gydweithredol sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth.

Rydyn ni’n gwerthfawrogi safbwyntiau amrywiol yn ein gwaith ac yn annog ymholiadau a cheisiadau gan bobl o bob cefndir, cymuned, hunaniaeth a phrofiad, gan gynnwys y rheini sydd â phrofiad uniongyrchol o’r materion y mae Cyfraith Gymunedol Gogledd Cymru yn ceisio mynd i’r afael â nhw.

Pro Bono

Os ydych chi’n gyfreithiwr, yn dwrnai neu’n fargyfreithiwr sy’n ymarfer ac sydd â’r sgiliau a’r profiad rydych chi’n meddwl sy’n werthfawr i’n staff neu ein cleientiaid, ymunwch â’n rhwydwaith o ymarferwyr cyfreithiol pro bono a chynghori a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl sydd angen eich help chi fwyaf.

Cysylltwch â ni i gael sgwrs anffurfiol am sut gallwn ni weithio gyda’n gilydd.

Gwirfoddoli

Gwirfoddolwyr yw conglfaen unrhyw fudiad cymunedol. Hebddyn nhw, ni allwn gynrychioli’r bobl rydyn ni’n eu gwasanaethu na chael ein harwain at y rheini sydd fwyaf mewn angen.

Mae Cyfraith Gymunedol Gogledd Cymru yn seiliedig ar bobl gydag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau yn dod at ei gilydd i wneud gwahaniaeth. Rydyn ni’n gwerthfawrogi pobl sydd â phrofiad o waith cymunedol, gweinyddu, cyfathrebu, dadansoddi data, cyllid, ymgyrchu, eiriolaeth... Os ydych chi wedi ymrwymo i gyfiawnder cymdeithasol ac eisiau bwrw iddi, rydyn ni eisiau clywed gennych chi.

Mae ein gwirfoddolwyr yn cael eu cefnogi’n dda ac yn cael yr hyfforddiant a’r datblygiad sydd arnyn nhw eu hangen i gyflawni eu rôl a gweithio tuag at eu nodau a’u dyheadau.

E-bost recruitment@nwcl.cymru gyda CV byr, eich manylion cyswllt a phryd rydych chi ar gael, a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y bo modd.

Swyddi gwag

Edrychwch ar ein swyddi gwag presennol ar gyfer gweithwyr cyflogedig a gwirfoddolwyr, a sut i wneud cais. .Cyflwynwch ein Ffurflen Monitro Cydraddoldeb gyda pob cais.

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol

Contract: Parhaol. Llawn-amser / rhan-amser neu rannu swydd.

Cyflog Cychwynnol: £38,000 – £42,000 (pro rata os yn rhan-amser) yn dibynnu ar brofiad.

Lleoliad: Conwy, Gogledd Cymru

Cyfle unigryw i gyfreithiwr profiadol sy'n ymrwymedig i gyfiawnder cymdeithasol. 

Rydym yn chwilio am gyfreithiwr profiadol (3 blynedd PQE) sydd ag arbenigedd mewn ymgyfreitha sifil ac ymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol i arwain ein gwaith cyfreithiol. 

Dyddiad cau: 9am ar 07/06/24

Cyfreithiwr

Contract: Parhaol. Llawn-amser / rhan-amser neu rannu swydd.

Cyflog Cychwynnol: £34,000 – £38,000 (pro rata os yn rhan amser) yn dibynnu ar brofiad.

Lleoliad: Conwy, Gogledd Cymru

Rydym yn chwilio am gyfreithiwr cymwysedig (o leiaf 1 flwyddyn PQE) sydd â phrofiad mewn cyfraith lles cymdeithasol i ymuno â'n tîm cyfreithiol. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan bobl sydd â phrofiad o ymgyfreitha a gynorthwyir yn gyfreithiol mewn tai neu deulu, a phrofiad o ddeddfwriaeth berthnasol yng Nghymru.

Dyddiad cau: 9am ar 07/06/24

Caseworker

Contract: Parhaol. Llawn-amser / rhan-amser neu rannu swydd.

Cyflog Cychwynnol: £25,000- £28,000 (pro rata os yw'n rhan-amser) yn dibynnu ar brofiad a chymwysterau.

Lleoliad: Conwy, Gogledd Cymru

Rydym yn chwilio am weithiwr achos trefnus, tosturiol ac uchelgeisiol sydd wedi ymrwymo i gyfiawnder cymdeithasol . 

Dyddiad cau: 9am ar 07/06/24

Ymddiriedolwr

Mae ein hymddiriedolwyr yn chwarae rhan annatod wrth wneud yn siŵr bod Cyfraith Gymunedol Gogledd Cymru yn cyflawni ei ddiben craidd.

Cyfnod y swydd: Penodir ymddiriedolwyr am dymor o 1 flwyddyn. Cytunir ar adnewyddu am dymor pellach drwy enwebu a phleidleisio ym mhob Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Swydd wirfoddol yw hon, ond caiff treuliau rhesymol eu had-dalu.

Ymrwymiad amser: Tua 4 awr y mis, Mae’r Grŵp Llywio yn cwrdd 4-6 gwaith y flwyddyn, fel arfer o bell gyda’r nos, gydag un Diwrnod Cwrdd i Ffwrdd wyneb yn wyneb bob blwyddyn.

Aelodaeth pwyllgorau: Efallai y gofynnir i ymddiriedolwyr fynychu cyfarfodydd pellach drwy gymryd rhan mewn Grwpiau Gorchwyl a Gorffen ac is-bwyllgorau.

Lleoliad: Conwy, Gogledd Cymru

Cadw mewn cysylltiad

Os hoffech chi gael newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gennym ni, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr yma

cyWelsh