Amdanom Ni

Mae Cyfraith Gymunedol Gogledd Cymru yn elusen gofrestredig annibynnol.

Ein Gweledigaeth.

All people and communities in North Wales have access to the services and expertise they need to uphold their rights, fight inequality and challenge injustice.

Ein Cenhadaeth.

Lliniaru tlodi, hyrwyddo cydraddoldeb, a helpu dinasyddion i greu cymdeithas decach a mwy cyfiawn. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy ddarparu cyngor cyfreithiol cymunedol am ddim ar faterion sy’n effeithio ar fywydau o ddydd i ddydd pobl sy’n byw yng Ngogledd Cymru, gan ddefnyddio’r gyfraith fel cyfrwng ar gyfer newid cymdeithasol, a rhannu ein gwybodaeth a’n sgiliau ag eraill.

Ein Gwerthoedd

Cymuned

Rydyn ni’n gwrando ac yn ymateb i anghenion y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.

Rydyn ni’n dod â chymunedau at ei gilydd i rannu a dysgu o’u profiadau, eu sgiliau a’u gwybodaeth wahanol.

Rydyn ni'n cydweithio ag eraill i gyflawni nodau cyffredin a datrys problemau mwy..

Cydraddoldeb

Rydyn ni’n trin pawb yn deg mewn ffordd sy’n diwallu eu hanghenion..

Rydyn ni’n ymdrechu i sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar y cyngor cyfreithiol arbenigol ac annibynnol sydd arnyn nhw eu hangen i gynnal eu hawliau..

Rydyn ni’n gwerthfawrogi lleisiau amrywiol a gwahanol dinasyddion a chymunedau yng Ngogledd Cymru..

Cyfiawnder

Rydyn ni’n helpu pobl i sicrhau canlyniadau teg, cyfiawn ac effeithiol iddyn nhw eu hunain a’u cymunedau..

Rydyn ni’n helpu pobl yng Ngogledd Cymru i ddeall eu hawliau cyfreithiol, gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth, a herio anghydraddoldeb, gwahaniaethu ac anghyfiawnder., make informed decisions, and challenge inequality, discrimination and injustice.

Rydyn ni’n addasu ein gwaith ac yn ymgyrchu dros newid ehangach i gael gwared ar y rhwystrau sy’n wynebu pobl wrth gael gafael ar gyfiawnder.

cyWelsh