Adnoddau
Mae cyfreithiau’n bodoli i amddiffyn dinasyddion a nodi ein hawliau a’n cyfrifoldebau. Gall cyngor cyfreithiol helpu i ddatrys problemau sy'n effeithio ar eich bywyd bob dydd. Ond gall dysgu mwy am yr hyn y mae’r gyfraith yn ei ddweud eich helpu chi i wneud penderfyniadau pwysig.
Mae llawer o wybodaeth ar gael i’ch helpu i ddeall eich hawliau a’r camau y gallwch eu cymryd i’w cynnal, ond gall fod yn anodd dod o hyd iddynt.
Yma gallwch ddod o hyd i rai o’n hadnoddau a’n canllawiau ni, a dolenni i wybodaeth ddefnyddiol a ddarperir gan eraill.
Tai
Beth i’w wneud pan fydd angen atgyweirio eich Eiddo rhent.
Mae’r Taflenni Ffeithiau hyn yn egluro beth gall unigolion sy’n rhentu’n breifat ei ddisgwyl gan eu landlord pan fydd angen atgyweirio’r eiddo maen nhw’n eu rhentu.
Mae Shelter Cymru yn darparu adnoddau da i helpu gyda llawer o broblemau tai.
- Digartrefedd
- Troi Allan
- Rhentu
- Dod o hyd i le i fyw
Teulu
Mae gan FLOWS (Canfod Opsiynau Cyfreithiol i Oroeswyr sy’n Fenywod) adnodd ar-lein o’r enw CourtNav sy’n eich helpu i lenwi cais am orchymyn peidio ag ymyrryd a / neu orchymyn meddiannaeth i’ch amddiffyn rhag cam-drin domestig.
Mewnfudo a Lloches
Mae Siambrau Eastgate yn gweithio’n agos gyda sefydliadau BAWSO, sy’n cefnogi grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Mae BAWSO yn rheoli Gwasanaeth Ffoaduriaid Cymru yn Wrecsam.
Maen nhw’n cynnig Cymorth Cyfreithiol ar gyfer hawliadau lloches a diogelwch dyngarol, diogelwch preswylio, apeliadau, dioddefwyr masnachu ac achosion cam-drin domestig.
Gofal yn y Gymuned, Iechyd Meddwl, Analluogrwydd a Budd Pennaf
Mae Julie Burton Law, sydd wedi’i lleoli yng Nghaernarfon, yn gweithio gyda chleientiaid, eu gofalwyr a/neu eu rhieni, i sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth gymunedol y mae ganddynt hawl iddi yn unol â’r gyfraith.
Budd-daliadau Lles
Gall Cyngor ar Bopeth gynnig cyngor ar Fudd-daliadau Lles, gan gynnwys gwirio budd-daliadau a chymorth i wneud cais.
Mae’r Siop Cyngor ar Fudd-daliadau, sydd wedi’i lleoli yn y Rhyl gyda gwasanaethau allgymorth yn Abergele, Prestatyn a Bae Colwyn, yn sicrhau nad oes unrhyw un yn colli allan oherwydd diffyg gwybodaeth neu ddealltwriaeth o’r system budd-daliadau lles drwy ddarparu cyngor proffesiynol, annibynnol, rhad ac am ddim.